News


Headling One
Date here
Small description...

>> more info

Headling Two
Date here
Small description...

>> more info

 

TAFLEN WYBODAETH

Dechreuwyd y cynllun hwn gan fod prinder cyfleusterau hydrotherapiwtig addas ar gyfer defnydd cymunedol. Bwriedir i'r Ganolfan Hydrotherapi Ffynnon Bywyd fod yn adnodd gwerthfawr ar gyfer aelodau o'r gymuned sydd ag anghenion iechyd neilltuol.
 
Bydd i'r llyn hydrotherapi nodweddion fydd yn ei wneud yn brofiad unigryw a phleserus i'w ddefnyddio, yn ogystal â bod yn therapi gwerthfawr. Bydd y dwr yn gynnes ar 30ºC (sydd yn hanfodol i osgoi plyciau o boenau cyhyrol ac i wella symudiad, bydd mynediad hawdd o'r maes parcio i ochr y llyn, creir amgylchedd anghlinigol a system hunan-gyfeiriol, a darperir ystafell orffwys ac adfer, yn ogystal â man aros cyfforddus.

Yn ychwanegol, cynigir therapïau amgen a fydd yn ychwanegu at yr ymarferion arferol a wneir yn y llyn. Bydd yn ddatblygiad a fydd yn gweddu i'r amgylchedd, wedi ei leoli mewn gardd bywyd-gwyllt cynaliadawy, a bydd y cyfleusterau o fewn cyrraedd hawdd.

Mae'r Ganolfan Hydrotherapi Ffynnon Bywyd yn grwp cymunedol gyda chyfansoddiad cyfreithiol a Phwyllgor Rheoli sydd yn fforwm i rannu gwybodaeth, barn a syniadau ynglyn â datblygiad a ffurf y cynllun i'r dyfodol. Bydd aelodau'r Pwyllgor yn monitro ac yn cefnogi gwaith Arweinydd y Cynllun a'r Swyddog Datblygu.

Cwblhawyd astudiaeth ymarferoldeb (Cam 1) yn llwyddianus. Gwelwyd yn glir iawn fod angen a rheidrwydd am ddatblygiad o'r math yma. O ganlyniad i ymchwil ac ymgynghori cyson cafodd y cynllun gefnogaeth parod gan nifer o unigolion, grwpiau a gweithwyr iechyd proffesiynol o fewn y gymuned.

Mae aelodau'r cynllun ar hyn o bryd yn y broses o godi'r arian digonol ar gyfer gweithredu cam nesaf y Cynllun Busnes a Datblygu (Cam 2). Yn benodol bydd y cam hwnnw'n golygu paratoi a chwblhau cynlluniau pensaernïol a'u cyflwyno am ganiatad cynllunio.

Ymchwilir hefyd am nawdd i'n galluogi i baratoi taflen wybodaeth yn amlinellu gwerth llesol hydrotherapi i'w dosbarthu trwy ffynonellau gofal iechyd proffesiynol. Mae ymchwil yn dangos yn glir nad oes ddogfen o'r fath ar gael ar hyn o bryd. Mae'r Cynllun yn derbyn cefnogaeth y Gymdeithas Hydrotherapi o Ffisiotherapyddion Siartredig (HACP).

 

 

 
  © Copyright 2004 WishingWell Waters. All Rights Reserved.